SL(5)289 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yw’r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt dalu’r dreth gyngor.

Mae’r rheoliadau yn ymwneud â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel “Rheoliadau 2013”). Maent yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad, a lefel y gostyngiad, o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Gweithdrefn

Cadarnhaol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Yn rheoliad 1(4), mae’r testun Saesneg yn cynnwys y term Cymraeg cyfatebol ar gyfer “council tax reduction scheme (“cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor”), ond nid yw’r testun Cymraeg yn cynnwys y term Saesneg cyfatebol.

Fel arfer, caiff Rheoliadau 2013 eu diwygio bob blwyddyn, ac mae’r Rheoliadau diwygio blaenorol bob amser wedi cynnwys y term Saesneg cyfatebol yn y testun Cymraeg.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

4 Rhagfyr 2018